Lleoliad:
Drwy Fideo-gynhadledd Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Ebrill 2020
Amser:
12.32 -
13.43
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Clerc |
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol ar gyfer eu cyhoeddi, yn amodol ar un newid i'w gytuno y tu allan i'r pwyllgor.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod yr holl ddatganiadau wedi'u hymestyn o 45 munud i 60 munud yr un.
Adborth o gyfarfod llawn yr wythnos diwethaf
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y LLywydd fod angen i'r Aelodau fod yn ddisgybledig wrth hysbysu swyddogion ynghylch pwy fydd yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn, ac o ran cyrraedd hanner awr cyn i'r cyfarfod ddechrau.
O ystyried bod y Cyfarfodydd Llawn yn ymestyn o ran hyd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i gael seibiant technegol hanner ffordd drwy'r cyfarfod. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i'r dechnoleg gael ei hailosod hanner ffordd drwy'r cyfarfod.
Pwynt o Drefn - iaith anghwrtais
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd ynghylch defnyddio iaith anghwrtais. Mae'r Gweinidog wedi ymateb i gadarnhau y bydd yn annerch y Cynulliad ar y mater hwn ar y cyfle nesaf sydd ar gael. Bydd y Llywydd yn codi'r pwynt o drefn ar ddechrau Cyfarfod Llawn dydd Mercher.
Hyd y cwestiynau
Trafododd y Rheolwyr Busnes hyd y cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, a chytunwyd i osod terfynau amser ar gyfer cwestiynau ar ddatganiadau. Cytunwyd i ganiatáu i lefarwyr ofyn dwy set o gwestiynau, yn yr un modd ag arweinwyr pleidiau, ac i'r ddwy set ar gyfer arweinwyr plaid a llefarwyr gael eu cyfyngu i 2 funud yr un. Caniateir un cyfraniad 3 munud i arweinydd a llefarwyr Plaid Brexit. Cyfyngir yr holl gyfraniadau eraill i un funud yr un. Disgwylir i hyd atebion y Gweinidogion fod yn gymesur â hyd y cwestiynau a gaiff eu gofyn.
Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Busnes ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethi Annomestig (Rhestrau) 2020, y Bil Ardrethi Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) 2020 a'r Bil Diogelwch Tân, yr oedd y Llywodraeth wedi gobeithio eu gosod yr wythnos diwethaf. Nid ydynt wedi gallu gwneud hynny gan fod yr un swyddogion yn gweithio ar yr ymateb i COVID-19, ond bydd y Llywodraeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Busnes o ran cynnydd.
Mae'r llywodraeth hefyd yn ystyried a oes angen cydsyniad y Cynulliad ar y Bil Cyllid, ond mae'r penderfyniad hwn hefyd wedi'i ohirio.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod y Bil Rhestri Ardrethi Annomestig yn debygol o symud yn gyflym drwy Senedd y DU, felly mae'n annhebygol y bydd chwe wythnos ar gyfer craffu yn bosibl. Fodd bynnag, mae'r Cynulliad eisoes wedi craffu ar Femorandwm ar y Bil blaenorol, a ddisgynnodd ar addoedi, ac wedi cytuno arno.
Pwynt o drefn - Cwestiynau Llafar y Cynulliad
Nododd y Rheolwyr Busnes fod Pwynt o Drefn wedi'i godi ynghylch defnyddio Rheol Sefydlog 34.18. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Llywydd barhau â'r arfer o ddatgymhwyso gofynion Rheol Sefydlog 12.56. Ni fyddai unrhyw gwestiynau llafar yn cael eu hamserlennu ond cytunodd y Pwyllgor i ailgyflwyno Cwestiynau Amserol ar gyfer yr wythnos yn cychwyn 4 Mai. Gofynnodd y Llywydd i'r ysgrifenyddiaeth ddarparu nodyn i'r Aelodau yn amlinellu'r meini prawf a fyddai'n cael eu defnyddio i ddewis cwestiynau. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r penderfyniadau hyn yn rheolaidd.
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ddrafft ar gyfer y pwyllgorau, a chytuno arni. Nododd y Pwyllgor y byddai'n trafod amserlen dreigl ym mhob cyfarfod, ac y rhagwelir eisoes y bydd newidiadau i rai slotiau ar gyfer trydedd a phedwaredd wythnos yr amserlen. Cadarnhaodd y Pwyllgor hefyd mai'r amser sydd ar gael o hyd ar gyfer cyfarfodydd grwpiau plaid yw 11.00 - 12.30 ar ddydd Mawrth.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyrau gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a chytunwyd i atal trafodion Cyfnod 2 dros dro, gan gynnwys peidio â chyflwyno gwelliannau. Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth yn gobeithio dod â chynnig am amserlen newydd i'r pwyllgor yn y dyfodol agos.